Mae ymgyrch filwrol Crafanc y Panther wedi dod i ben yn Afghanistan gyda naw o filwyr Prydeinig wedi eu lladd.

Yn ôl penaethiaid y fyddin mae’r milwyr wedi llwyddo i glirio’r Taliban allan o ardal yr un faint ag Ynys Wyth yn rhanbarth Helmand.

Y nod oedd sefydlogi’r rhanbarth cyn i ddinasyddion Afghanistan bleidleisio mewn etholiadau fis nesaf.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydd milwyr Prydain yn aros yn yr ardal am rhwng tri a chwe mis.

Diogelu 100,000 o bobol

Dywedodd y Prif Weinidog Gordon Brown mai dyma un o’r hafau anoddaf i filwyr Prydain ers i’r ymgyrch ddechrau yn Afghanistan.

Ond ychwanegodd bod yr ymgyrch ddiweddaraf wedi sicrhau diogelwch tua 100,000 o bobl.

“Rydym ni wedi gwthio’r Taliban yn ôl, ac rydym ni wedi dechrau torri’r cysylltiad rhwng terfysg ym mynyddoedd Afghanistan a Phacistan, a strydoedd Prydain. Rwy’n falch iawn o’r hyn mae’r fyddin wedi ei wneud.”

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi adleisio galwadau’r Gweinidog Tramor, David Miliband, am yr angen i siarad gydag elfennau cymedrol o’r Taliban.