Mae Michael Chopra wedi annog ei gyd-flaenwr, Ross McCormack, i aros gyda Chaerdydd y tymor nesaf.
Dywedodd McCormack ddoe y byddai’n gadael Caerdydd os na fyddai’n cael chwarae’n gyson i’r tîm cyntaf.
Ers i Michael Chopra ddychwelyd i’r brifddinas, mae McCormack wedi chwarae llai o gemau, yn ogystal â gorfod chwarae ar yr asgell.
Gwadodd yr Albanwr ei fod wedi ffraeo gyda’r ymosodwyr eraill, sef Chopra a Jay Bothroyd.
“Mae’n edrych yn debyg y bydd Chopra a Jay yn cael eu dewis i chwarae yn hytrach na fi, sydd yn ddigon teg,” meddai Ross McCormack.
“Ond pe bai hynny’n digwydd, byddai rhaid i fi feddwl gadael oherwydd mae’n rhaid i mi feddwl am fy lle yn nhîm yr Alban. Gyda Chwpan y Byd yn dod y flwyddyn nesaf, mae’n amser pwysig i mi.”
‘Cylchdroi’r garfan’
Mae Chopra yn dweud fod gan McCormack rôl allweddol yn ymgais yr Adar Glas i gyrraedd yr Uwch Gynghrair.
“Pan ydach chi’n edrych ar glybiau yn yr Uwch Gynghrair, mae gan lawer ohonyn nhw bedwar ymosodwr da iawn i ddewis ohonyn nhw,” meddai Chopra.
“Dyw pob un ddim yn mynd i chwarae bob gêm, ac rydych yn mynd i gael eich siomi rhai wythnosau. Ond mae cylchdroi’r garfan a chadw pawb yn ffres yn rhan o’r gêm erbyn hyn. Rydw i eisiau i Ross aros, ac mae gweddill y garfan yn teimlo’r un peth”
Paul Parry
Yn y cyfamser mae Paul Parry yn ystyried cynnig i ymuno â Preston am swm o £300,000.
Mae’r Cymro wedi bod yn Preston i gynnal trafodaethau, ond dyw e’ ddim yn siŵr beth fydd ei benderfyniad.
Dywedodd ei fod yn hoff iawn o chwarae i Gaerdydd a bod y cefnogwyr yn rhai arbennig iawn.