Mae disgwyl i Gethin Jenkins arwyddo cytundeb newydd gyda Gleision Caerdydd, er fod gan glybiau cyfoethog Ffrainc ddiddordeb yn ei arwyddo.
Bydd prop Cymru a’r Llewod yn arwyddo estyniad dwy flynedd i’w gytundeb, gwerth dros £200,000 y flwyddyn.
Er y gallai clybiau yn Ffrainc fod wedi cynnig £100,000 y flwyddyn yn ychwanegol i Jenkins, mae eisoes wedi dweud ei fod yn hapus iawn yng Nghaerdydd, a gyda llwyddiant y garfan dros y tymhorau diwethaf.
Ymunodd Gethin Jenkins â’r Gleision ers 2004 pan gafodd rhanbarth y Rhyfelwyr Celtaidd ei ddileu.
Cafodd Gethin Jenkins anaf i’w ysgwydd ar daith y Llewod a does dim disgwyl iddo chwarae ym mhrofion yr Hydref yn erbyn Seland Newydd, Awstralia a’r Ariannin.