Cafodd mam ifanc i ddau o blant ei lladd mewn damwain car ar ôl i’w llysdad yrru 110 milltir yr awr i mewn i folardiau concrit.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd (dde) heddiw fod Edward Goddard yn ceisio ei dychryn hi a thri theithiwr arall ar ôl cael llond bol ar alwadau hwyr y nos i fynd i’w chasglu.
Roedd wedi bwriadu codi ofn arni hi a’i ffrindiau trwy esgus gyrru i mewn i’r bolardiau ond fe drawodd y car yn erbyn un ohonyn nhw a llithro oddi ar y ffordd wrth iddo geisio cywiro’r camgymeriad.
Mae Edward Goddard o Springfield Court, Llanmartin, Casnewydd yn gwadu achosi marwolaeth Kaylee Goddard drwy yrru’n beryglus.
Doedd Kaylee Goddard ddim yn gwisgo gwregys diogelwch ac fe gafodd ei thaflu o’r car wrth i hwnnw droi drosodd sawl gwaith. Bu farw’n fuan wedyn gydag anafiadau difrifol i’w phen.
Noson allan
Yn ôl yr erlyniad, roedd Kaylee Goddard wedi bod am noson allan i Abertyleri gyda’i phartner Luke Gray, ei frawd Matthew a chariad ei frawd Alicia Bourne.
Roedd y pedwar wedi colli tacsi a phenderfynodd Kaylee Godard alw ei llysdad. Ar y ffordd adref, meddai’r erlyniad, roedd hi’n gofyn iddo yrru’n gynt.
Roedd Edward Goddard wedi dioddef anafiadau pen ac asgwrn cefn ac, yn ôl yr heddlu, doedd e’n cofio dim am y ddamwain.
(Llun: Llys y Goron Casnewydd – Rob Gale)