Mae Llywodraethwr Alaska, Sarah Palin, wedi ymddiswyddo heddiw, 17 mis cyn diwedd ei thymor cyntaf.
Fe ddaeth y ‘hockey mom’ o Wasilla i’r amlwg yn ystod yr etholiadau arlywyddol y llynedd.
Hi oedd dewis syfrdanol ymgeisydd y Gweriniaethwyr, John McCain, i redeg fel ei Ddirprwy Arlywydd.
Cyn hynny, doedd hi ddim yn wleidydd amlwg yn yr Unol Daleithiau, ond fe wnaeth ei dewis roi hwb i ymgyrch John McCain i ddechrau.
Roedd ei hegwyddorion traddodiadol ceidwadol, ei modd agos atoch chi o gyfathrebu, yn ogystal â’i delwedd ‘hockey mom’, yn apelio at ganran fawr o’r cyhoedd.
Ond yn ystod yr ymgyrch, fe wnaeth nifer o raglenni adloniant ddechrau ei dychanu, ac fe wnaeth hi’n wael iawn mewn cyfweliadau.
Ers yr etholiad arlywyddol, mae hi wedi parhau i fod yn wleidydd amlwg mewn plaid sy’n cael trafferth i ganfod arweinydd newydd ac mae rhai yn credu mai dyna fydd ei tharged nesa’.
Ymddiswyddo
Dyw Sarah Palin ddim wedi cynnig rheswm pendant tros ymddiswyddo, ond mae hi wedi awgrymu ei bod wedi blino ar driniaeth y cyfryngau ohoni hi a’i theulu.
Roedd rhai wedi awgrymu ei bod hi’n ymddiswyddo oherwydd bod sgandal gwleidyddol mawr ar fin torri, ond does dim byd wedi dod i’r amlwg eto.
Yn ôl adroddiadau, mae hi’n bwriadu ysgrifennu llyfr a datblygu sefydliad gwleidyddol adain dde.