Mae meddygon sy’n trin Felipe Massa wedi dweud ei fod wedi cael “noswaith dawel” a’i fod wedi bod yn cyfathrebu gyda hwy drwy symud ei gorff.
Mae’r gyrrwr Fformiwla Un yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Milwrol AEK yn Budapest, wedi’r ddamwain dydd Sadwrn.
Ond mae Robert Veres, y meddyg wnaeth berfformio’r llawdriniaeth ar Massa wedi dweud nad yw ei fywyd mewn peryg erbyn hyn.
Yn ôl y meddyg y pryder nawr yw y gallai’r niwed i lygad chwith Massa ei rwystro rhag gyrru car Fformiwla Un eto. Dyw’r meddygon ddim yn siŵr pa mor ddifrifol yw’r niwed ar hyn o bryd.
Fe gafodd Massa ei daro ar ei helmed gan sbring oddi ar gar Rubens Barrichello wrth gystadlu yn y ras ragbrofol.
Mae’n debyg i’r ergyd ei daro yn anymwybodol. Fe wnaeth y car barhau i fynd mewn llinell syth oddi ar y trac cyn taro rhwystr teiars ar gyflymder o tua 170 milltir yr awr.
Mewn datganiad dywedodd Ferrari y bydd Massa yn cael sgan CT arall heddiw a’i fod wedi symud ei fysedd a’i draed.
Ymweld
Mae rhieni Felipe Massa ynghyd â’i wraig feichiog wedi hedfan o Frasil i fod wrth ei wely.
Wedi’r ras ddoe fe wnaeth pennaeth tîm Ferrari Stefano Domenicali, cyd yrrwr Massa, Kimi Raikkonen a Rubens Barrichello, ymweld ag ef.
Roedd llywydd Ferrari, Luca di Montezemolo, hefyd yn bwriadu ymweld â Massa heddiw. Mae e’ wedi dweud mai blaenoriaeth Ferrari oedd iechyd Massa.
Ond ychwanegodd nad oedd y tîm am aros yn rhy hir cyn penderfynu a oes angen olynydd arno.
Mae awdurdod Fformiwla Un wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad i’r ddamwain, gyda’r nod o wneud newidiadau mewn trefniadau diogelwch os bydd angen.