Damwain tri char ym Môn yn caethiwo dynes
Cafodd dynes ei dal yn gaeth yn ei char ar ôl damwain tri char yn Ynys Môn y bore yma.
Digwyddodd y ddamwain ar y B5111 rhwng Llanerchymedd a Llangefni tua chwarter i wyth y bore.
Aeth y tri char yn erbyn ei gilydd gan adael y ddynes yn gaeth nes i ddiffoddwyr tân ddod i’w rhyddhau.
Mae’r ddynes yn Ysbyty Gwynedd yn cael triniaeth ar hyn o bryd. Mae ganddi anafiadau difrifol i’w braich a’i brest.
Canolfan ffitrwydd yn cael ei llosgi – am y trydydd tro
Mae heddlu yn Abergele yn chwilio am losgwyr sy’n gyfrifol am gynnau tân mewn Canolfan Ffitrwydd yn y dref, a hynny am y trydydd tro.
Achosodd y llosgwyr gwerth £40,000 o ddifrod i gyfleustra ffitrwydd ‘Abergele Fitness’.
Ar ôl torri twll yn nho’r ganolfan ffitrwydd yn Stryd y Dŵr, fe wnaethon nhw dywallt petrol i mewn i’r adeilad a’i gynnau.
Clywodd cymdogion y larwm dân a ffonio’r heddlu. Cadarnhaodd Michael O’Meara, archwilydd tân, fod y tân yn un “cwbl fwriadol”.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda hwy ar 0845 607 1001/2 neu â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.
Achub ceffyl o dir corsiog yng ngogledd Cymru
Bu’n rhaid i geffyl a aeth i drafferthion mewn cae corsiog ger Caernarfon gael ei achub gan weithiwyr y frigâd dan ddoe.
Cafodd y frigâd ei galw tua 11 y bore i gae ger Waunfawr i achub y ceffyl, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Bu’n rhaid i’r gweithiwyr gerdded hanner milltir cyn cyrraedd y ceffyl. Defnyddiodd y frigâd strapiau i ryddhau’r ceffyl o’r mwd.
Mae’r ceffyl wedi dod tros y profiad erbyn hyn.