Yn hytrach nag adeiladu ffordd osgoi newydd yn ardal Casnewydd, mae Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried prynu ac ymestyn ffordd breifat trwy waith dur Llanwern.

Yn ôl papur newydd y South Wales Argus, mae swyddogion ar ran Llywodraeth Cymru yn trafod telerau prynu’r ffordd gyda’r perchnogion, cwmni Corus.

Dan y cynllun arfaethedig, byddai’r ffordd ddeuol breifat bresennol, 3.5 milltir o hyd, yn cael ei gwella a’i hymestyn. Fe wnaeth Corus gau eu ffatri yn Llanwern yn mis Ionawr.

Cyffyrdd newydd

Byddai tri safle parcio a theithio yn cael eu hychwanegu, a byddai cyffyrdd yn cael eu creu i gysylltu â’r M4.

Mae amcangyfrif y byddai datblygu’r ffordd yma yn golygu gostyngiad o 10% yn nifer y ceir sy’n teithio ar yr M4 yn ardal Casnewydd.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried datblygu ffordd osgoi newydd ond ddechrau’r mis, fe wnaeth y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, ohirio’r cynlluniau, gydag amcangyfrif y gost wedi codi o £340 i £1 biliwn.