Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud heddiw fod eisteddfodwyr Cymru angen “ychydig o agwedd Glastonbury” tuag at dywydd yr ŵyl.
Mae glaw trwm wedi disgyn wrth i dîm yr Eisteddfod brysuro gyda’r paratoadau munud olaf, ac, yn ôl y proffwydi tywydd, mae’n ‘na ragor o law ar y ffordd yr wythnos yma.
Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod wrth Golwg 360 fod “glaw trwm a thrafnidiaeth wedi gadael ei ôl ar un rhan o’r maes gan ei falu ychydig”.
Ond, prysurodd i ddatgan fod y rhannau eraill o’r maes yn “eithaf glan a sych”.
“Does dim pwynt gweld bai ar y tywydd, rydym ni’n hen gyfarwydd ag o yng Nghymru. Mae angen ychydig o agwedd Glastonbury arnom ni,” meddai Elfed Roberts.
Mae’r maes carafanau a pharcio yn iawn, yn ôl y Prif Weithredwr. Mae mynediad i’r mannau hyn wedi ei wahardd yn llwyr tan Ddydd Iau nesaf, i arbed y tir, meddai.
“Yn y cyfamser, rydym ni’n gobeithio cael ysbeidiau o haul a gwynt i sychu’r tir a gwella’r sefyllfa,” meddai.
Dywedodd y bydd yr Eisteddfod yn apelio ar stondinwyr i gydweithio â threfnwyr yr Eisteddfod – gan ddod yn gynnar os yn bosibl yn ogystal â “bod yn amyneddgar”.
“Plismona’n llym”
Wrth drafod paratoi stondinau cyn yr ŵyl, dywedodd Elfed Roberts y byddai stondinwyr a gyrwyr cerbydau yn “dod i mewn yn drefnus ac yna’n mynd oddi yno’n syth”.
Ni fydd y rhai sy’n gwrthod cydymffurfio â’r drefn yn cael mynediad i’r maes a hynny “er lles pawb,” meddai.
“Yn ystod y paratoadau, fe fydden ni’n cyfyngu mynediad i’r maes ar gyfer dadlwytho’n unig, dydyn ni ddim eisiau llond cae o faniau a lorïau’n gwaethygu’r sefyllfa. Fe fyddwn i’n plismona’r peth yn llym,” dywedodd.
Mae angen i bobl ddod wedi paratoi, meddai, yn gwisgo dillad addas ac yn cario’u ymbarelau.
“Rydym ni eisiau i bawb fwynhau’r Eisteddfod,” meddai’r Prif Weithredwr.
(Llun: Glaw yn y Sioe Frenhinol – Tegwyn Roberts)