Fe gafodd criw o forwyr sioc wrth gyrraedd porthladd Vancouver yng Nghanada, a darganfod morfil marw – 70 troedfedd o hyd – yn sownd ar flaen eu llong.

Yn ôl Princess Cruise Lines, perchnogion llong y Sapphire Princess, mae’r digwyddiad yn “ddirgelwch,” gan fod neb yn gwybod “sut na phryd” y trawyd y morfil.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod nhw’n dilyn canllawiau llym ynglŷn ag osgoi morfilod, sy’n cynnwys newid cyfeiriad ac arafu.

Mae Adran Bysgota a Moroedd Canada wedi dweud fod profion yn cael eu cynnal ar y morfil i ganfod os oedd yn fyw neu’n farw pan gafodd ei daro gan y llong.

Cyn y darganfyddiad, roedd y Sapphire Princess wedi bod yn chwilio am forfilod ar lannau Alaska.