Mae peryg mawr na fydd Gorchymyn Iaith y Llywodraeth yn cael ei weithredu am flynyddoedd, meddai’r gŵr a ddechreuodd y broses, Rhodri Glyn Thomas.

Fe ddyweodd y cyn Weinidog Treftadaeth fod y broses yn cael ei harafu’n llwyr yn Llundain ac y gallai Etholiad Cyffredinol ac wedyn Etholiadau’r Cynulliad rwystro’r Gorchymyn.

Hwnnw fyddai’n rhoi’r hawl i’r Cynulliad greu deddfau iaith newydd ond fe gododd dadl rhwng Llundain a Chaerdydd tros rai o’r manylion a thros ehangder yr argymhellion ynddo.

“Canlyniad y broses o ddelio â Gorchmynion yw fod yr eLCO Iaith yn tin-droi yn San Steffan am flwyddyn gron a dim byd yn cael ei gyflawni,” meddai.

“Dyma achos clir ble dylai Ysgrifennydd Cymru ac Aelodau Seneddol ddweud mai mater i’r Cynulliad ydi hwn a rhoi’r hawl iddyn nhw weithredu.”

Colli’r cyfle – oedi am flynyddoedd

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn Llundain eisoes wedi ystyried y Gorchymynd, mae Ysgrifennydd Cymru yn ei ystyried yn awr ac, os bydd yn cael ei anfon yn ôl at y Pwyllgor eto, fe allai’r cyfle fynd, yn ôl Rhodri Glyn Thomas.

“Fe allen ni gael ein hunain heb amser i gwblhau’r broses cyn Etholiad Cyffredinol ac efallai wedyn y byddai’n rhaid trafod gyda Llywodraeth newydd ac Ysgrifennydd newydd i Gymru, heb fod gyda ni unrhyw syniad beth fydd eu hagwedd nhw.

“Wedyn, efallai na fyddai digon o amser i fynd trwy’r broses ymgynghorol yn y Cynulliad ac mae’n achosi pryder mawr i’r rhai ohonon ni sydd am weld y mesur iaith yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad.”

Doedd trafodaethau’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ddim wedi codi dim byd newydd nad oedd wedi ei drafod eisoes, meddai.

Y disgwyl yw y bydd Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesa’ – os nad ynghynt – ac fe fydd rhaid cynnal Etholiadau’r Cynulliad yn 2011. Pe bai’r Ceidwadwyr yn dod i rym yn Llundain, efallai y byddai’n rhaid dechrau trafod eto.