Er bod y nifer o bobol sy’n ymuno â’r fyddin yn yr Alban wedi cynyddu eleni, does dim cynnydd tebyg wedi digwydd yng Nghymru.
Yn ôl James Pearson, llefarydd ar ran y fyddin yng Nghymru, mae’r nifer o bobol sy’n ymuno â’r fyddin yn y wlad wedi bod yn gyson ers blynyddoedd, heb unrhyw gwymp na chynnydd sylweddol.
Mae’n hynny’n wahanol i’r Alban, lle mae’r nifer a ymunodd â’r fyddin wedi cynyddu o 27 y mis yn ystod tri mis cyntaf 2008, i 99 y mis yn yr un cyfnod yn 2009, yn ôl papur newydd y Scotsman.
Dywedodd James Pearson bod tua 1,000 o bobol yn ymuno â’r fyddin bob blwyddyn yng Nghymru, y mwyafrif yn dod o’r de a’r cymoedd.
Does dim eglurhad pendant am yr union reswm am y cynnydd yn yr Alban, ond mae diweithdra yno ar ei uchaf ers 10 mlynedd, gyda 179,000 o bobol heb swyddi.
Yn ôl y Scotsman, mae arweinwyr milwrol wedi honni bod mwy o bobol ifanc yn ymuno â’r fyddin wrth i’r frwydr yn Afghanistan – ac Irac cyn hynny – gael mwy o sylw yn y wasg.