Fe wnaeth chwech o ymladdwyr y Taliban wisgo dillad gwragedd Moslemaidd ac ymosod ar un o adeiladau’r llywodraeth yn Afghanistan, yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera.
Fe wnaeth y chwech, a oedd yn cario gynnau a ffrwydron, ac yn gwisgo wigiau a’r burqa, ymosod ar adeilad ym mhrifddinas talaith Paktia.
Does dim sicrwydd ynglŷn â beth ddigwyddodd ond, yn ôl Al Jazeera, cafodd plismyna rhai o’r ymosodwyr eu lladd, ac fe gafodd rhai aelodau o’r cyhoedd eu hanafu yn ystod y digwyddiad.
Ail ymosodiad
Cafodd dau ymosodwr eu lladd gan heddlu mewn digwyddiad arall yn Jalalabad, yn nhalaith Nangarhar.
Roedd y ddau ar gefn beic modur ac yn cario gynnau AK-47 a thaniwr rocedi, wrthiddyn nhw ymosod ar faes awyr y ddinas sydd hefyd yn ganolfan filwrol. Cafodd un plisman ei ladd hefyd.
Mae’r Taliban wedi hawlio taw nhw oedd yn gyfrifol am y ddau ymosodiad.
Trais yn cynyddu
Mae trais wedi cynyddu yn Afghanistan yn ddiweddar ers i luoedd yr Unol Daleithiau a Phrydain ddechrau cyrch yn erbyn y Taliban yn nhalaith Helmand, mewn ymgyrch i geisio sefydlogi’r wlad erbyn yr etholiadau arlywyddol ym mis Awst.
Ond mae llu o ymosodiadau diweddar gan y Taliban wedi codi amheuaeth ynglŷn â gallu lluoedd Afghanistan a lluoedd Prydain ac America i sicrhau diogelwch pobol a fydd yn pleidleisio ar 20 Awst.
Yn ôl Al Jazeera, mae Comisiwn Etholiadol Afghanistan wedi dweud ei bod hi’n bosib na’ fydd 30% o orsafoedd pleidleisio’r wlad yn saff ar ddiwrnod yr etholiad.