Mae’r chwaraewr canol cae Tom Kearney wedi cytuno gyda chlwb Wrecsam i ddod a’i gytundeb i ben.
Roedd cyn chwaraewr Everton wedi arwyddo i Wrecsam yn 2008 o Halifax Town ond chwaraeodd o ddim llawer i’r clwb ar ôl i Dean Saunders ddod yn rheolwr ym mis Hydref yr un flwyddyn.
Fe chwaraeodd 11 o weithiau i’r clwb cyn i Saunders ddod, a dim ond pedair gwaith wedyn.
Mae disgwyl iddo ymuno gyda chlwb arall yn y Blue Square Premier League ac mae
hefyd yn wedi bod yn ennill cymwysterau hyfforddi wrth weithio gydag academi Everton.
Dywedodd Tom Kearney ei fod wedi mwynhau ei gyfnod gyda Wrecsam.