Mae clwb rygbi Harlequins yn ystyried apelio yn erbyn penderfyniad i’w dirywio a gwahardd un o’u chwaraewyr am ffugio anaf y tymor diwethaf.

Cafodd y clwb o Loegr ddirwy o £215,000, a chafodd Tom Williams ei wahardd am flwyddyn. Er hynny, fe lwyddodd y clwb i osgoi colli eu lle yn Gwpan Heineken ac mae hanner y diryw wedi cael ei ohirio am ddwy flynedd.

Ffugio

Roedd Harlequins yn 6-5 ar ei hol hi yn erbyn Leinster yn rownd yr wyth olaf Cwpan Heineken, gyda phum munud o’r gêm yn weddill.

Wrth i Williams ddod oddi ar y cae, fe wnaeth y camerâu ei ddal yn wincio tuag at y fainc.

Penderfynodd yr awdurdodau bod Tom Williams wedi ffugio’r anaf gwaedlyd er mwyn mynd i’r gell waed a galluogi i giciwr arbenigol y clwb, Nick Evans, ddychwelyd i’r cae.

‘Synnu a siomi’

Mae’r gwaharddiad yn ergyd fawr i yrfa Tom Williams, gyda Dean Richards yn credu ei fod yn haeddu lle yng ngharfan Sacsoniaid Lloegr – tïm datblygu’r wlad.

Mae’r clwb wedi datgan eu bod nhw wedi eu synnu a’u siomi gyda phenderfyniad panel Cwpan Rygbi Ewrop, a’u bod nhw’n ystyried cymryd camau pellach.