Mae’r athletwr o Gymru, Tim Benjamin wedi cyhoeddi ei fod wedi ymddeol o’r gamp ar ôl cyfres o anafiadau dros y blynyddoedd diwethaf.
Roedd cyn bencampwr ieuenctid Ewrop bron ag ymddeol y llynedd ar ôl i anaf ei orfodi i golli’r Gêmau Olympaidd.
Bedair blynedd yn ôl roedd y Cymro’n cael ei ystyried yn bedwerydd yn y byd am redeg y 400m. Ym mis Mehefin, fe enillodd Gwpan Timau Ewropeaidd dros Gymru, ond cafodd ei anafu eto yn fuan wedyn.
Mae wedi bod yn anodd i’r athletwr 27 oed gael cysondeb yn ei yrfa ar ôl diodde’ un anaf ar ôl y llall.
‘Ar fy nhelerau fy hun’
“Roeddwn yn benderfynol o orffen fy ngyrfa ar fy nhelerau fy hun,” meddai. “Roeddwn yn falch iawn i gael y cyfle i ddod yn ôl o gyfnod anodd yn fy mywyd ac ennill Cwpan Ewrop dros fy ngwlad.
“Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd a ges i a’r ffrindiau yr ydw i wedi eu gwneud drwy chwaraeon. Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu mewn ffordd arall at athletau yn y dyfodol agos.”