Mae nifer y rhaglenni teledu Cymreig sy’n cael eu darlledu gan BBC Cymru Wales wedi gostwng 15% mewn tair blynedd ers 2004.

Datgelwyd y ffigwr mewn adroddiad gan Ofcom, sy’n dangos bod lefel cynhyrchu blynyddol y BBC ar gyfer rhaglenni Cymreig wedi disgyn o 846 o oriau yn 2004 i 716 yn 2007.

Cwympodd oriau darlledu newyddion lleol y sianel yn yr un cyfnod o 454 i 365.

Cynnydd i S4C

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos fod nifer yr oriau Cymraeg sy’n cael eu darlledu ar S4C wedi cynyddu o 4,386 o oriau yn 2004 i 5,326 yn 2008. Roedd 3,237 o’r oriau yn rhaglenni oedd yn cael eu hail ddangos.

Yn ôl yr adroddiad, mae 20% o wylwyr S4C yn edrych ar ddrama, tra bod 16% yn edrych ar chwaraeon, 14% yn edrych ar raglenni materion cyfoes, ac 11% yn edrych ar raglenni celfyddyd a cherddoriaeth.

Roedd bron i saith allan o bob deg o wylwyr cyson y sianel (68%) yn ymddiried yng nghynnwys y sianel, ond dim ond 56% ddywedodd fod S4C yn dangos rhaglenni yr oedden nhw am eu gweld.

Roedd 53% yn cytuno fod y sianel yn adlewyrchu eu diddordebau a 36% bod S4C yn cynnig “syniadau newydd.”