Mae adroddiad wedi cael ei gyhoeddi heddiw sy’n galw am i’r drwydded darlledu genedlaethol gael ei chymryd oddi ar y BBC, a’i rhoi yn nwylo corff comisiynu annibynnol.

Y rheswm am hyn yn ôl adroddiad ‘Auntie’s Dying: Long Live Public Service Broadcasting’, yw bod y BBC wedi symud yn rhy bell oddi wrth ei hegwyddorion cynnar o gynnig addysg a gwybodaeth, yn ogystal ag adloniant.

Gormod o adloniant

Cred awduron yr adroddiad, Frank Field AS a David Rees, yw bod y BBC yn cynnig gormod o raglenni adloniant ar hyn o bryd.

Mae’r adroddiad yn cynnig trefn newydd a fyddai’n caniatáu i wahanol ddarlledwyr, gan gynnwys y BBC, gynnig syniadau ar gyfer rhaglenni arfaethedig, a byddai corff annibynnol yn penderfynu pa rai sy’n deilwng i gael arian cyhoeddus.

Yn ôl cynlluniau’r adroddiad, byddai sianeli teledu BBC 1 a BBC 3, ynghyd â’r gorsafoedd Radio 1 a Radio 2 – sianeli a gorsafoedd adloniant – yn cael eu gwerthu.

Byddai BBC 2 a 4, a Radio 3 a Radio 4 – sianeli a gorsafoedd sy’n cynnig mwy o newyddion a rhaglenni addysgiadol – yn parhau i dderbyn arian cyhoeddus.