Mae anifail anarferol wedi cyraedd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Crewyd y tarw du Cymreig gan y cerflunydd Sally Mathews ar gyfer agoriad Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.
Mae’r tarw yn pwyntio tuag at y warchodfa natur, y gyntaf erioed ar fferm weithredol yng Nghymru.
Bydd y sgerbwd metal sydd wedi ei stwffio gyda gwlân defaid yn sefyll rhwng y Tŷ Gwydr Mawr a’r llynnoedd.