Mae awyren oedd yn cario 56 o bobol wedi lladd mochyn ar ôl glanio mewn maes awyr yn India.

Yn ôl llefarydd ar ran y cwmni awyrennau Kingfisher Airlines, roedd yr awyren wedi glanio ar faes awyr Nagpur, gorllewin India, pan redodd tri mochyn gwyllt ar draws y llain lanio.

Dywedodd y llefarydd fod yr awyren wedi taro o leiaf un o’r moch, gan achosi ychydig o ddifrod i’r olwynion.

Sicrhaodd y llefarydd fod yr awyren wedi cael eu harchwilio cyn cael caniatâd i hedfan eto.

Cafodd maes awyr Nagpur ei ddyrchafu i fod yn faes awyr rhyngwladol flwyddyn ddiwethaf, ond mae anifeiliaid gwyllt, gan gynnwys baeddod gwyllt a cheirw, yn aml yn amharu ar y gwaith.