Mae llefarydd ar ran cynrychiolwyr y Cenhedloedd Unedig yn Afghanistan wedi dweud eu bod nhw am wneud pob ymdrech i ddiogelu pleidleiswyr yn etholiadau arlywyddol y wlad fis nesaf.
Dywedodd y llefarydd y dylai pobol sydd â’r “hawl gyfansoddiadol a democrataidd i bleidleisio” yn Afghanistan “gael y cyfle i wneud hynny ar ddiwrnod yr etholiad, heb ofn”.
Bydd yr etholiad yn digwydd ar 20 Awst, ac mae dwy ddynes ymhlith y 41 o bobol sy’n cystadlu i fod yn Arlywydd.
Bydd 3,000 o bobol hefyd yn ceisio am seddi mewn cynghorau taleithiol.
Sefydlogi’r wlad
Mae’r etholiad yn cael ei drefnu gan Gomisiwn Etholiadol Annibynnol Afghanistan, ac mae’r digwyddiad yn cael eu hysbysebu ar draws sianeli teledu a radio’r wlad.
Mae mwy na 1,600 o “addysgwyr dinasyddiaeth” wrthi yn cynghori darpar bleidleiswyr, ac mae llinell gymorth ynglŷn â’r etholiadau wedi bod yn derbyn rhwng 30,000 a 40,000 o alwadau bob wythnos.
Mae lluoedd arfog Prydain wrthi ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn cyrch yn erbyn y Taliban yn nhalaith Helmand – rhan o ymgyrch lluoedd y cynghreiriaid yn Afghanistan i sefydlogi’r wlad cyn y pleidleisio.