Mae myfyriwr sydd wedi ei gyhuddo o ladd Cymro mewn clwb nos yng Ngwlad Groeg wedi colli ei frwydr yn erbyn cael ei estraddodi i wynebu achos llys yno.

Fe fydd yn cael ei symud o wledydd Prydain o fewn dyddiau ar ôl i Dŷ’r Arglwyddi wrthod clywed ei achos.

Cafodd Andrew Symeou, 20 oed, o Enfield yng ngogledd Llundain, ei gyhuddo o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth Jonathan Hiles,18, o Ystum Taf, Caerdydd yn Zakynthos yn 2007.

Yn ôl heddlu Gwlad Groeg roedd wedi taro Jonathan Hiles yn ei wyneb, gan achosi iddo ddisgyn yn anymwybodol oddi ar lwyfan dawnsio mewn clwb nos ar yr ynys.

Roedd Jonathan Hiles, a oedd yn chwarae hoci iâ dros Brydain a thîm ieuenctid y Cardiff Devils, wedi dioddef anaf difrifol i’w ymennydd a bu farw ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.

‘Tystiolaeth anghyson’

Mae Andrew Symeou yn gwadu’r cyhuddiad ac yn dweud nad oedd o hyd yn oed yn y clwb nos ar y pryd.

Mae cyfreithwyr Andrew Symeou yn dweud bod y dystiolaeth yn ei erbyn wedi ei ffugio a bod heddlu Gwlad Groeg wedi codi braw ar lygad dyst.

Heddiw dywedodd Fair Trials International – mudiad sy’n cefnogi achos Andrew Symeou – y byddai’r dyn 20 oed yn cael ei estraddodi i Roeg ddydd Iau.

Mae ymgyrchwyr o’i blaid yn poeni y bydd yn y carchar am fisoedd cyn wynebu’r llys ac mae Andrew Symeou wedi dweud ei fod yn poeni y bydd o’n cael ei fwrw gan yr heddlu.

“Mae’r achos yn erbyn Andrew Symeou wedi ei seilio ar adnabod y person anghywir, tystiolaeth anghyson ac ymchwiliad llawn beiau gan yr heddlu,” meddai Jago Russell, prif weithredwr Fair Trials International.