Mae’n edrych yn debyg bod gyrfa rygbi Colin Charvis yn dod i ben – ar y cae, beth bynnag.

Mae Dreigiau Casnewydd-Gwent wedi cyhoeddi bod Charvis wedi cael ei benodi’n hyfforddwr amddiffyn i’r rhanbarth y tymor nesaf.

Yn yr un datganiad, fe ddywedson nhw nad oedden nhw’n disgwyl ei weld yn ôl ar y cae.

“Rydw i wedi mwynhau fy mhrofiad fel chwaraewr-hyfforddwr gyda’r Dreigiau’r tymor diwethaf, ac rwy’n edrych ymlaen at her y tymor newydd yn Rodney Parade,” meddai Charvis.

“Mae gan y Dreigiau nifer o sêr i’r dyfodol ac fe fydd yn hyfryd cael y cyfle i weithio gyda nhw’r tymor nesaf”.

‘Ased gwych’

Dywedodd hyfforddwr y Dreigiau Paul Turner ei fod yn falch iawn bod Charvis am aros gyda’r rhanbarth: “Fe weithiodd yn galed iawn ar ac oddi ar y cae’r tymor diwethaf, ac fe fydd yn ased gwych i’r tîm fel hyfforddwr llawn amser.”

Gyrfa lwyddiannus

Fe chwaraeodd Colin Charvis 94 o weithiau i Gymru, gan sgorio 22 cais, y mwyaf erioed gan flaenwr o Gymru.

Roedd yn gapten ar Gymru yng Nghwpan y Byd 2003. Enillodd ddau gap i’r Llewod ar eu taith i Awstralia yn 2001.