Mae cefnwr Cymru, Chris Gunther, yn dweud ei fod o’n teimlo “rhyddhad” ar ôl arwyddo i Nottingham Forest am £1.75m.

Chafodd y Cymro ddim llawer o gyfleoedd yn gyda Tottenham y tymor diwethaf, ac fe dreuliodd gyfnod ar fenthyg gyda Forest.

“Roeddwn i’n gweddïo y byddai’r trosglwyddiad yn digwydd, ac rydw i mor falch ei fod wedi’i gwblhau,” meddai’r cefnwr.

“Doedd gen i ddim diddordeb arwyddo i glwb arall, doedd dim temtasiwn i edrych ar glybiau eraill. Roeddwn i eisoes wedi dweud fy mod i am chwarae i Forest”.

Roedd yna sôn y byddai gan nifer o glybiau yn y Bencampwriaeth ddiddordeb yng nghyn amddiffynnwr Caerdydd, gan gynnwys Newcastle Utd a Ipswich.

Bydd y trosglwyddiad yma’n newyddion da iawn i John Toshack a charfan Cymru, gyda Gunther yn fwy tebygol o chwarae yn gyson.