Mae cymdogion wedi dweud eu bod nhw’n anfodlon gweld cartref Michael Jackson yn California yn cael ei droi’n atyniad twristaidd.
Mae preswylwyr Santa Ynez yng Nhaliffornia wedi creu grŵp o’r enw ‘Never’ i wrthwynebu’r cynlluniau i droi Neverland yn ail Graceland, cartref Elvis Presley.
Mae’r ymdrech yn cael ei gefnogi gan mudiadau cymunedol sydd yr un mor benderfynol i beidio â throi’r fferm ar safle ynysig Los Olivos yn atyniad twristaidd.
‘Torri heddwch’
Dywedodd Bob Field, llefarydd ar ran grŵp cymunedol lleol nad oedd gan yr ardal hewlydd addas ar gyfer cynlluniau o’r fath, ac y byddai’n torri’r heddwch.
Cadarnhaodd llefarydd o Sir Santa Barbara nad oedd swyddogion wedi clywed unrhyw gynlluniau gan berchnogion y safle na gan deulu’r brenin pop.