Mae dynion gyda chleddyf Samurai a batiau pêl fas wedi ymosod ar reolwr tafarn yn ogystal a bygwth hollti gwddw yfwr yn ardal y Fflint.

Mae rheolwr 29 blwydd oed tafarn y ‘Coach and Horses’ ar Fynydd y Fflint yn dal yn yr ysbyty ar ol yr ymosodiad am un o’r gloch fore Llun, wedi i dri o ladron ei guro’n ddrwg gyda batiau baseball.

O ganlyniad i’w anafiadau, mae’n rhaid iddo gael plat metel wedi’i osod yn ei fraich a chafodd y ddau ddyn eu cymryd i’r ysbyty.

Arian

Roedd y rheolwr yn cael diod preifat gyda chyfaill wedi i’r dafarn gau, pan ymosododd y lladron arnyn nhw a dianc gydag arian o’r til.

Mae ‘Lovely Day Inns’, perchnogion y dafarn, wedi cynnig gwobr i geisio dal y lladron.
Roedd y tri wedi cuddio’u hwynebau ac yn gwisgo dillad tywyll.

Dywedodd yr Heddlu eu bod yn awyddus i siarad gyda grŵp o bobol a adawodd y dafarn ychydig cyn yr ymosodiad ac a allai fod wedi gweld rhywbeth.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal yn ystod y drosedd neu a welodd unrhyw beth yn gysylltiedig â’t achos i gysylltu gydag hwy ar 0845 607 1001 neu â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.