Fe aeth dyn a oedd wedi bod yn arogli gasolin ar dân ar ôl i’r heddlu ei saethu gyda gwn taser.
Mae Ronald Mitchell, 36 oed, mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Perth yng Ngorllewin Awstralia ar ôl y digwyddiad yn nhref Warburton.
Roedd heddlu yn ymateb i gŵyn pan ddaeth Ronald Mitchell allan o’i dŷ yn cario taniwr sigaréts a photel blastig fawr oedd yn dal gasolin.
Gwrthododd y dyn wrando ar orchymyn yr heddlu gan redeg tuag atyn nhw, cyn cael ei saethu gyda’r taser.
Ceisiodd un o’r heddweision lethu’r fflamau gyda’i ddwylo. Tra oedd yn helpu’r dyn fe ddechreuodd menyw 18 oed daflu cerrig ac fe gafodd yntau ei daro.
Arestio pedwar
Cafodd Ronald Mitchell ei gymryd i’r ddalfa am ymosod ar yr heddlu wrth osgoi cael ei arestio, ac am feddu ar sylwedd arogli.
Mae’r fenyw 18 oed wedi cael ei harestio am ymosod ar yr heddwas ac mae dau berson arall wedi’u harestio am feddu ar sylwedd arogli.
Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, dioddefodd Ronald Mitchell losgiadau i 10% o’i gorff.
Mae ei chwaer Morinda West wedi dweud wrth bapur newydd The Australian bod Ronald West wedi bod yn arogli’r gasolin cyn y digwyddiad.
Mae Comisiynydd Heddlu Gorllewin Awstralia, Karl O’Callaghan wedi amddiffyn gweithred yr heddwas wnaeth ddefnyddio’r gwn taser, a dyw e’ heb gael ei wahardd o’i waith.
Yn ôl y comisiynydd, roedd yr heddlu’n ymwybodol bod Ronald Mitchell yn arogli gasolin a’i fod yn droseddwr treisgar.