Mae ysgolion yn Lloegr yn anhebygol o gau er mwyn atal ffliw moch rhag lleadanu ymhellach, yn ol Prif Swyddog Meddygol y wlad.
Roedd dau arbenigwr ar ffliw, yr Athro Neil Ferguson a Dr Simon Cauchemez, wedi dweud y byddai cau ysgolion yn “torri’r gadwyn” wrth i’r firws gael ei drosglwyddo.
Byddai cau’r holl ysgolion yn “amharu’n arw” ar gymdeithas, meddai Syr Liam Donaldson. Ond dywedodd y byddai’n dal i’w ystyried yn opsiwn at y dyfodol.
“Fe fyddai’n cymryd lot i’n symud ni yn y cyfeiriad yna, fe fyddai’n amharu arw ar gymdeithas – a phryd fydden ni’n eu hagor nhw eto, o ystyried y gall y ffliw fod o gwmpas am fisoedd?” meddai wrth GMTV.
Roedd y ddau arbenigwr wedi dadlau y byddai cau ysgolion a thorri’ gadwyn yn rhoi mwy o gyfle i gynhyrchu brechlyn cyn i’r ffliw ledu ymhellach.
Cymru
Mae 77 o achosion bellach wedi’u cadarnhau drwy brofion labordy yng Nghymru, gyda chwech achos newydd:
• Merch 13 oed, a dau fachgen 15 a 17 oed yn Sir Ddinbych. Mae eu salwch yn gysylltiedig â theithio i Sbaen.
• Menyw 26 oed o Gaerfyrddin.
• Menyw 24 oed o Gasnewydd.
• Menyw 44 oed o Gastell-nedd Port Talbot.