Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ymosodiad rhywiol difrifol a ddigwyddodd yn safle castell Aberystwyth rhwng 10pm ac 11pm nos Sadwrn diwethaf.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad gydag unrhyw un a oedd yn yr ardal, a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus.

Maen nhw hefyd yn chwilio am grŵp o bobl ifanc a oedd o amgylch yr ardal adeg y digwyddiad.

Cadarnhaodd yr heddlu bod y dioddefwr yn “ddiogel” ac yn derbyn cefnogaeth ond dydyn nhw ddim wedi rhoi rhagor o wybodaeth.