Mae pum person wedi cael eu harestio ar ôl i fwy na 100 o bobol dorri i mewn i barti heb gael eu gwahodd, ar ôl iddo gael ei hysbysebu ar y wefan gymdeithasu Facebook.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar Chapel Lane, Farnborough, Hampshire, am 10am dydd Sadwrn a darganfod tua 100 o bobol yn y stryd, a 30 o’r rheiny yn ymladd.
Rhyddhawyd pedwar o’r bobol ifanc a gafodd eu harestio fechnïaeth, tra bod un hogyn 17 oed wedi ei ddirywio £80 am ymddwyn mewn modd bygythiol.
Cafodd y parti ei drefnu gan Seva Nurueva a Jordan Wright, y ddau yn 15 oed, a’i hysbysebu ar Facebook. Fe gymerodd hi awr a hanner i’r heddlu gael gwared â’r dyrfa.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedd “unrhyw anafiadau difrifol nac adroddiadau pellach o gamymddwyn yn yr ardal”.