Fe gafodd tri physgotwr eu lladd pan ddymchwelodd eu cwch yn y môr i’r gorllewin o’r Alban.

Llwyddodd un o’r criw i oroesi ac mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty ac mae disgwyl y bydd yn byw.

Cafodd ymdrech achub ei lansio ar ôl i aelod o’r cyhoedd weld y cwch casglu cregyn bylchog yn dymchwel ger Ardamurchan ar lannau gorllewinol yr Albantua 5.10pm ddoe.

Fe fu’r Llynges, y bad achub a hofrennydd gwylwyr y glannau yn ceisio achub y lleill hefyd, ond roedd y tri wedi marw erbyn cyrraedd yr ysbyty neu’n fuan wedyn.

Dywedodd aelod o’r gymdeithas pysgotwyr lleol bod capten y cwch, Tony Hayton o Maryport, Cumbria, yn ddyn “profiadol iawn”.

Dyw enwau’r pysgotwyr eraill ddim wedi eu cyhoeddi ac mae swyddogion ymchwil i ddamweiniau môr yn ymchwilio i’r digwyddiad.