Mae’r Rhyl yn wynebu tasg enfawr yn Serbia heno wrth geisio chwalu’r fantais o bedair gôl sydd gan Partizan Belgrade.

Fe gollodd pencampwyr Cymru 4-0 yn Belle Vue yr wythnos ddiwethaf yng nghymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Mae rheolwr y clwb, Alan Bickerstaff, yn dal i fod ar ei wyliau, felly Osian Roberts, Cyfarwyddwr Perfformio Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru fydd yn gofalu am y tîm.

Bydd disgwyl mai’r un tîm ag yn y cymal cyntaf fydd yn wynebu pencampwyr Serbia, ond fydd yr eilydd Lee Hunt ddim ar gael, gan ei fod e’ hefyd ar ei wyliau.

Balchder

Mae’r rheolwr dros dro yn credu y bydd y gêm yn brofiad mawr i’r chwaraewyr, ac mae am i’r tîm gadw eu balchder:

“Mae’n bwysig i hyder y chwaraewyr ein bod yn cael perfformiad da a defnyddio’r profiad i baratoi ar gyfer y tymor domestig,” meddai Osian Roberts.

Dywedodd bod Partizan Belgrade yn dîm da iawn, ac roedd disgwyl iddyn nhw gyrraedd rownd y grwpiau yn nes ymlaen.

Rownd nesaf

Mae rheolwr Partizan Belgrade, a chyn chwaraewr Chelsea, Slavisa Jokanovic, wedi dweud bod canlyniad y cymal cyntaf yn rhoi’r hawl i’r tîm gredu eu bod nhw wedi ennill eu lle yn y rownd nesaf.

Ond ychwanegodd Jokanovic eu bod eisiau ennill yr ail gymal gyda pherfformiad da iawn, a bydd mwyafrif y tîm a ddechreuodd y cymal cyntaf, yn dechrau’r ail gymal hefyd.

Mae disgwyl i tua 10,000 i 15,000 o bobol wylio’r gêm a fydd hefyd yn cael ei dangos yn fyw ar deledu Serbia.