Mae Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi cael ei achub ar ôl i’r gweinyddwyr ddod o hyd i brynwr newydd. Mae Red Dragon Rugby Limited wedi talu tua £450,000 o ddyledion y clwb.

Dywedodd Undeb Rygbi Lloegr eu bod nhw’n hapus gyda’r gwerthiant ar ôl i’r buddsoddwyr ateb pob un o’u gofynion.

Roedd rhaid i’r prynwyr brofi fod ganddyn nhw’r cyllid i ariannu’r clwb am y ddwy flynedd nesaf.

Ond fe fydd y clwb yn dechrau’r tymor newydd gyda phum pwynt wedi ei dynnu oddi ar eu cyfanswm yn y gynghrair, yn gosb am fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Roedd y clwb wedi troi’n broffesiynol ychydig cyn mynd i drafferthion ariannol.

Barn y cadeirydd a’r llywydd

“Rwy’n falch iawn bod y clwb yn gallu aros yn y Bencampwriaeth. Rwy’n siŵr y bydd y buddsoddiad yn gymorth i’r clwb wireddu’r freuddwyd o chwarae yn yr Uwch Gynghrair o fewn tair blynedd.” – Kelvin Bryon, Cadeirydd Clwb Rygbi Cymry Llundain.

“Mae hwn yn ganlyniad gwych sy’n adlewyrchu’r rôl bwysig sydd gan y clwb o fewn rygbi Cymru a Lloegr. Mae’r Bencampwriaeth newydd yn cynnig cyfleoedd ffantastig ac rydym yn edrych ymlaen at dymor llwyddiannus arall.” – John Dawes, Llywydd Clwb Rygbi Cymry Llundain.