Mae arlywydd Japan Taro Aso wedi diddymu tŷ isaf senedd y wlad heddiw, er mwyn dechrau’r ymgyrchu ar gyfer etholiad cyffredinol fis nesaf.

Yn ôl sylwebyddion, fe allai hwnnw newid pwtrwm gwleidyddol y wlad yn llwyr gyda phosibilrwydd o blaid newydd yn rheoli am y tro cynta’ ers bron hanner can mlynedd.

Roedd Taro Aso wedi gohirio galw etholiad yn y gobaith y byddai’r polau piniwn yn dechrau ei ffafrio, ond ar ôl i’w blaid ddioddef colledion trwm yn yr etholiadau lleol yr wythnos ddiwethaf penderfynodd alw etholiad ar gyfer 30 Awst.

Mae plaid Democratiaid Rhyddfrydol y wlad wedi bod â mwyafrif yn nhŷ isaf y senedd am y rhan fwyaf o’r 50 mlynedd diwethaf.

Mae’r polau piniwn yn awgrymu y gall yr etholiad yma newid pethau, gyda nifer o bleidleiswyr yn dweud eu bod nhw am gefnogi’r wrthblaid.

“Mae teimladau a chwynion pobol wedi dod i;r amlwg yn yr etholiadau diweddar. Mae’n rhaid i ni ystyried hynny ac r’yn ni’n benderfynol o ddechrau o’r newydd,” meddai Taro Aso.

‘Perwyl hanesyddol’

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Yukio Hatoyama, y byddai’r etholiad yn arwain at newid mawr yng ngwleidyddiaeth Japan am y tro cyntaf ers degawdau.

“Dyw hyn ddim yn fater o dynnu gorchudd tros ddyddiau’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’n fwy na hynny,” meddai arweinydd Plaid Ddemocrataidd Japan. “Rhaid i ni fynd i mewn i’r etholiad yma gan deimlo ein bod ni ar berwyl hanesyddol.”

Yn ol pôl piniwn ym mhapur newydd Mainichi ddoe, roedd 56% o bleidleiswyr yn cefnogi’r wrthblaid, a 23% yn cefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae Plaid Ddemocrataidd Japan yn ffafrio llai o reolaeth gan y llywodraeth a mwy o rôl cadw’r heddwch i fyddin Japan.