Mae milwr arall o wledydd Prydain wedi marw ar ôl ffrwydrad yn Afghanistan ddydd Llun.
Roedd y milwr yn rhan o dîm oedd yn gweithio ar droed yn cael gwared ar ffrwydron yn rhanbarth Helmand.
Mae ei deulu wedi cael gwybod, ond dyw’r Weinyddiaeth Amddiffyn ddim wedi cyhoeddi ei enw.
Mae hyn yn golygu fod 187 o filwyr Prydeinig wedi marw yn Afghanistan ers i’r ymgyrch filwrol ddechrau yn 2001.
Enwi milwr
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enw milwr arall a fu farw yn Afghanistan dydd Sul.
Bu farw Corporal Joseph Etchells, 22 oed o Mossley, Manceinion, tra ar batrôl yn rhanbarth Helmand.