Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi galw am un swyddog i roi trefn ar y diwydiant bwyd yng Nghymru.
Yn ôl Is-bwyllgor Datblygu Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae angen penodi Hyrwyddwr Bwyd Cymru i oruchwylio a chydlynu’r agenda hybu bwyd yng Nghymru.
Dyma’r prif argymhelliad yn yr adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw ac sydd eisiau adfer enw da Cymru am gefnogi’r diwydiant.
Maen nhw’n nodi bod gormod o strategaethau bwyd gan Lywodraeth Cymru yn llesteirio’r gwaith o gynhyrchu a hybu bwyd yn y wlad.
Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan undeb ffermwyr NFU Cymru fod yr agenda fwyd wedi colli momentwm ers i Awdurdod Datblygu Cymru ddod yn rhan o Lywodraeth Cymru.
Rhai o’r argymhellion
Rhai o argymhellion eraill yr adroddiad yw:
• Dylai’r nod o greu system fwyd gynaliadwy fod wrth graidd strategaeth newydd y Llywodraeth, Bwyd a Diod o Gymru.
• Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r diwydiant ar y cyfle cyntaf posibl i baratoi ar gyfer newid ar ôl 2013, pan mae’n debygol y bydd Polisi Amaethyddol Cyffredinol yn cael ei newid.
• Dylai’r Gweinidog sicrhau bod anghenion Cymru’n cael eu cynrychioli’n llawn pan fydd Ombwdsmon Prydain yn cael ei sefydlu, gan gynnwys darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog ar gyfer Cymru.
• Dylai’r Gweinidog gynrychioli cynhyrchwyr a defnyddwyr Cymru mewn trafodaethau yn Ewrop am olrhain a labelu tarddiad bwyd.
Angen cydlynu
Dywedodd Alun Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym yn derbyn mai bwriad y Gweinidog a’i swyddogion yw bod yr holl strategaethau a pholisïau’n cydweddu i ddarparu fframwaith cydlynol.
“Er hynny, rydym yn pryderu y gallai sefydliadau allanol ddehongli hyn fel diffyg cydlynu a chydweithio. Roedd yr honiadau o ran colli arbenigedd hefyd yn peri pryder i ni.”
“Ar un adeg, y farn oedd bod Llywodraeth Cymru yn arwain o ran arloesi, cynnig cymorth a datblygu a chredwn bellach, fod angen polisi cydlynol llawn ar gyfer hybu bwyd Cymru i adfer y sefyllfa honno.”