Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn dweud eu bod yn parhau â’u hymdrechion i roi eu tŷ mewn trefn ar ôl adroddiad beirniadol iawn gan yr Archwilydd Cyffredinol

Daw’r ymrwymiad gan y cynghorwyr wrth i Weinidog Llywodraeth Leol y Cynulliad, Dr Brian Gibbons ddweud ei fod ef ei hun am benodi rheolwr gyfarwyddwr dros dro i redeg yr Awdurdod.

Fe fydd Bwrdd Ymyrraeth yn cael ei benodi hefyd i weithio gydag uwch swyddogion ac aelodau i ddileu gwendidau sy’n cynnwys gelyniaeth rhwng cynghorwyr a diffyg cydweithio rhwng cynghorwyr a staff.

Mae disgwyl manylion pellach am benderfyniad Brian Gibbons wedi iddo gyfarfod heddiw gyda Rheolwr Gyfarwyddwr Gweithredol Môn, Richard Parry Jones; Arweinydd y Cyngor, Clive McGregor, a’r Dirprwy Arweinydd, Bob Parry.

Ymateb i’r prif wendidau

Cytunodd cyfarfod o’r Cyngor Llawn y byddai pedwar arweinydd y grwpiau gwleidyddol ynghyd ag uwch swyddogion yn ymateb i’r prif wendidau a nodwyd gan yr adroddiad.

Mae aelodau’r cyngor wedi cytuno i:

• geisio am gymorth ariannol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
i gynorthwyo gyda gwelliannau

• edrych eto ar Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn atgyfnerthu’r
drefn archwilio

• barhau i ddatblygu system fwy cyfansawdd o reoli prif
risgiau’r Cyngor

• ddatrys materion yn ymwneud ag un achos dadleuol yn, Amlwch

• gydnabod y cyfraniad parhaol waned gan staff tuag at ddiogelu
gwasanaethau o’r radd flaenaf

‘Cam positif’

“Roedd cyfarfod heddiw o’r Cyngor Llawn yn gam positif ymlaen gydag aelodau yn dangos fod yna ewyllys gwleidyddol i weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau gwelliannau parhaol a newid diwylliant o fewn yr Awdurdod yma.”- Richard Parry Jones Rheolwr Gyfarwyddwr gweithredol