Fe fydd perchnogion cwmni Alwminiwm Môn yn edrych eto ar ddyfodol y gwaith ger Caergybi ond does neb yn rhy obeithiol.
Fe gytunodd cyfarwyddwyr Rio Tinto a Kaiser y bydden nhw’n ystyried y mater mewn cyfarfod yn Llundain heddiw.
Os na fyddan nhw’n newid eu meddwl, fe fydd 250 o weithwyr yn colli eu gwaith – yn ychwanegol at 140 sy’n mynd ohonyn nhw eu hunain.
Trafodaethau
Roedd cynrychiolwyr wedi cael trafodaethau neithiwr gydag Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, a’r Aelod Seneddol, Albert Owen.
Fe geisiodd Peter Hain eu perswadio i dderbyn cynnig o £48 miliwn tros bedair blynedd gan lywodraethau Prydain a Chymru.
Bwriad hwnnw yw helpu gyda chostau tanwydd wrth i gytundeb am drydan rhad ddod i ben ym mis Medi.
Pan wnaed y cynnig i ddechrau, fe ddywedodd y cwmnïau nad oedd yr arian yn ddigon ond maen nhw wedi cytuno i’w ystyried unwaith eto.