Clywodd llys fod dyn 42 oed a laddodd ei lysfab trwy ei drywanu 18 o weithiau yn diodde’ o gyflwr meddwl oedd yn gwneud iddo ddychmygu pethau.

Dyna honiad yr amddiffyn yn achos Carl Wayne Bowen, o Lanelli, sy’n gwadu cyhuddiad o lofruddio Jamie Yeats, 15 oed, ac o geisio llofruddio ei wraig, Maria, 37, a’i lysferch Kimberley Yeats.

Fe ddywedodd arbenigwr seiciatrig wrth Lys y Goron Abertawe fod gan Bowen obsesiwn fod ei wraig yn anffyddlon ac nad ef oedd tad ei blant.

Roedd wedi ymosod ar y bachgen pan oedd yn cysgu, gan ei drywanu gyda chyllell gegin, ac wedyn wedi ymosod ar ei wraig a’i lysferch.

Lladd, ond gwadu llofruddiaeth

Mae’n cydnabod ei fod wedi lladd Jamie, ond yn gwadu llofruddiaeth, gan ddweud fod ei synnwyr o gyfrifoldeb yn llai ar y pryd.

Yn ôl bargyfreithiwr yr erlyniad, Elwen Evans, mae Craig Bowen yn ddyn “sy’n rheoli a defnyddio pobol, yn feddiannol, eiddigeddus, a hunanol” gyda hanes hir o reoli bywyd ei wraig.

Fe glywodd y llys hefyd ei fod yn alchoholig a oedd wedi yfed hyd at dair potel o gin ar ddiwrnod y lladd ym mis Ionawr eleni.

Roedd Jamie Yeats yn ddisgybl yn Ysgol y Strade, Llanelli, ac yn gobeithio mynd yn joci.

Mae’r achos yn parhau.