Petai byddinoedd NATO yn gadael Afghanistan, fe fyddai’r Taliban yn meddiannu’r wlad ac therfysgwyr yn cael eu hanfon allan i wledydd y Gorllewin.
Dyna rybudd Ysgrifennydd Cyffredinol y corff milwrol, Jaap de Hoop Scheffer, wrth iddo siarad yn Llundain neithiwr.
Ac yntau ar fin ymddeol o’r swydd ar ôl pum mlynedd, roedd yn amlwg yn anelu at ladd y galw cynyddol am i filwyr gwledydd Prydain adael Afghanistan.
Roedd yn pwysleisio fod milwyr o 14 o wledydd yn ymladd yno, nid dim ond byddinoedd gwledydd Prydain a’r Unol Daleithiau, ac roedd cannoedd ohonyn nhwthau wedi cael eu lladd.
“Trychinebus”
Pebai NATO’n gadael, meddai, “Byddai Afghanistan yn cwympo i ddwylo’r Taliban gyda chanlyniadau trychinebus, yn enwedig i fenywod. Ac mae cysylltiad sylfaenol rhwng diogelwch yn Afghanistan a diogelwch ar strydoedd Llundain.”
Ynghynt, roedd wedi cael trafodaethau gyda’r Prif Weinidog, pan alwodd Gordon Brown am ragor o ymdrech gan wledydd eraill yn y cyfnod cyn etholiadau Afghanistan ym mis Awst.
Erbyn hyn, mae 55 o luoedd NATO wedi cael eu lladd yn y wlad yn ystod mis Gorffennaf – y colledion mwya’ mewn un mis ers dechrau’r rhyfel yn 2001.
Llun: Jaap de Hoop Scheffer