Mae mwy na hanner y prif swyddi proffesiynol yn mynd i gyn-ddisgyblion o ysgol bonedd, yn ól adroddiad newydd sy’n galw am roi pen ar elitiaeth.
Fe wnaethon nhw 80 o argymhellion i gyd, gan gynnwys ymgyrch i ysbrydoli pobol ifanc o gefndiroedd mwy cyffredin i’w perswadio y gallan nhwthau gyrraedd y top.
Mae 75% o o farnwyr a 45% o uwch weision sifil yn gynnyrch ysgol bonedd, yn ôl y panel aml-bleidiol dan gadeiryddiaeth y cyn-weinidog llywodraeth, Alan Milburn. Mae hynny fwy na deg gwaith a chwe gwaith y ffigwr teg.
Bellach fe ddylai gwella’r gallu i symud rhwng y dosbarthiadau cymdeithasol fod yn brif nod i unrhyw lywodraeth, meddai’r adroddiad a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog, Gordon Brown.
Adnabod y bobol iawn
Dyma rai o’r matneision y mae plant breintiedig yn eu cael, yn ôl y panel:
• Mwy o weithgareddau y tu allan i’r dosbarth.
• Mwy o fentora personol.
• Mwy o gyfle am waith a hyfforddiant trwy adnabod y bobol iawn.
Ymgyrch a mentora
A dyma rai o’r argymhellion:
• Ymgyrch “Yes you can” i ysbrydoli pobol ifanc.
• Mentora gan bobol sydd eisoes yn y proffesiynau.
• Dysgu mwy o ‘sgiliau meddal’ yn yr ysgol – pethau fel gallu cyfathrebu a chydweithio.
• Mwy o hawl i ddewis ysgolion a chosbi ysgolion sâl.
Llun: Alan Milburn (Rathfelder – Trwydded GNU)