Mae lefel y rhybuydd rhag ymosodiad terfysgol wedi cael ei ollwng i’w lefel isaf ers mwy na thair blynedd.

Bellach, meddai’r awdurdodau, bygythiad “sylweddol” sydd yna o ymosodiad, yn is nac ar uinrhyw adeg ers cyn yr ymosodiadau yn Llundain ar Orffennaf 7, 2006.

Mae nifer o ffactorau’n dylanwadu ar y lefel, gan gynnwys ‘bwriad’ a ‘galluo’ terfysgwyr rhyngwladol i ymosod.

Er gwaetha’r penderfyniad, mae Alan Johnson, yr Ysgrifennydd Cartref, wedi rhybuddio heddiw fod y wlad yn dal i wynebu bygythiad terfysgol “real a difrifol”.

“Yr hyn y mae’r newyddion diweddaraf yn ei olygu mewn gwirionedd yw fod ymosodiad terfygol ar Brydain yn dal i fod yn bosibilrwydd cryf, ” meddai.

Cwynion gan grŵpiau lleafrifol

Aeth ymlaen i ddatgan fod yr heddlu ynghyd â’r gwasanaethau dirgelwch yn parhu â’u hymdrech i leoli a tharfu gweithgareddau terfysgol ledled y wlad.

Daw’r penderfyniad hwn wedi i Heddlu’r Met. ddatgan eu bod yn cyfyngu eu defnydd o’r dechneg chwilio dadleuol ‘atal a chwilio’ yn dilyn honiadau am gwynion gan grŵpiau lleafrifol.

Bellach, mae’r mannau y caiff yr heddlu ddefnyddio’r dechneg o fewn Llundain wedi’u cyfyngu’n bennaf i atyniadau twristaidd megis Palas Buckingham a’r Senedd.

Llun: (CCXASH2.0)