Mae Andrew Flintoff wedi ysbrydoli Lloegr i fuddugoliaeth yn yr ail brawf yn erbyn Awstralia yn Lord’s.
Fe wnaeth tair wiced Flintoff heddiw ynghyd â dwy gan Graeme Swann sicrhau bod Lloegr wedi ennill o 115 o rediadau, ar ôl i Awstralia gyrraedd 406 yn eu hail fatiad.
Dyma’r tro cyntaf mewn 75 mlynedd i Loegr guro Awstralia mewn gêm brawf yn Lord’s. Gorffennodd Flintoff y batiad ar 5-92 gydag Swann ar 4-87.
Cafodd Flintoff ei enwi’n seren y gêm, ac fe fu capten Lloegr, Andrew Strauss, yn clodfori cyfraniad y chwaraewr amryddawn wrth gipio’r fuddugoliaeth hanesyddol. Fe fydd yn ymddeol o gêmau prawf llawn ar ddiwedd y gyfres hon.
Mae Lloegr 1-0 ar y blaen yn y gyfres pum prawf ar ôl gêm gyfartal yn y prawf cyntaf yng Nghaerdydd.
Llun: Andrew Flintoff – arwr y dtydd