Bydd Y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones AC yn annog ffermwyr da byw i gymryd rhan mewn prosiect i wella safon pridd Cymru.

Bydd hi’n gwneud hyn yn ei hymweldiad â stondin Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) yn y sioe Fawr ddydd Mercher, 22 Gorffennaf.

Mae gwyddonwyr y sefydliad yn chwilio am ffermydd datblygu, er mwyn arbrofi â ffyrdd gwahanol o wella’r pridd, a thrwy hynny wella’r cnydau a safon y da byw.

Drwy’r prosiect PROSOIL fe fydd y Sefydliad yn ceisio dangos sut y gall rheoli pridd yn effeithiol arwain at effeithiolrwydd ariannol.

Dywedodd Elin Jones AC y byddai ffermwyr sy’n rhan o’r prosiect yn “elwa o’r dechrau” drwy dderbyn cymorth technegol yn ogystal â gwybodaeth a chyngor am ffyrdd o reoli’r pridd.

6 math o borfa a meillion ar restr argymhell

Roedd swyddogion IBERS yn dathlu ar ôl i fwy nag erioed o’r blaen o’u cnydau gael eu derbyn ar Restr Argymell ddiweddaraf NIAB (‘National Institite of Agriculture Botany’.)

Dyma’r flwyddyn orau eto i’r rhaglen fridio yn Aberystwyth, gyda chasgliad o chwe math o gnwd, sy’n cynnwys meillion, rhygwellt a phorfa llawn siwgr.

Mae’r casgliad yn cynnwys dau fath cyferbyniol o feillion gwyn, AberAtom ac AberSpring, math o rygwellt o’r enw AberBite a thri math o borfa sy’n llawn siwgr, AberChoice, AberFarell ac AberSweet.

Dywedodd Dr Michael Abberton o’r Sefydliad fod gan raglenni bridio o’r fath “ran fawr i’w chwarae mewn sicrhau dyfodol cynaliadwy ymhlith ffermydd y Deyrnas Unedig”.