Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ynghylch dyn 40 blwydd oed sydd wedi mynd ar goll.

Mae Alun Rhys Jones o Groesyceiliog wedi bod ar goll ers ddydd Sadwrn, 18 Gorffennaf.

Mae’n bum troedfedd naw modfedd ac mae ganddo wallt brown hyd ei ysgwyddau a chorff sylweddol.

Dywedodd yr heddlu y gallai Alun Jones fod yn ardal Dyfed Powys neu yng ngogledd Cymru ble mae’n mwynhau teithiau cerdded.

Mae swyddogion heddlu a’i deulu’n pryderu am ei les gan mai dyma’r tro cyntaf iddo fynd ar goll.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am yr achos gysylltu â Heddlu Gwent ar 01633 838111.