Mae dyn mwyaf grymus Iran, yr Ayatollah Ali Khamenei wedi rhybuddio gwleidyddion y wlad rhag achosi aflonyddwch ac wedi cyhuddo gwledydd eraill o annog protestiadau.
Dywedodd y gwleidydd, y clerigwr ac uwch lywydd ar y gwasnaeth radio gwladwriaethol fod “tarfu ar ddiogelwch yn un o’r drygau mwyaf”.
Yr wythnos ddiwetha’, fe fu cyn-Arlywydd y wlad Ali-Akbar Rafsanjani yn arethio o blaid protestwyr sy’n cyhuddo’r llywodraeth o dwyll tros etholiadau’r Arlywydd y mis diwetha’.
Rhybuddiodd yr Ayatollah Ali Khamenei wleidyddion Iran rhag gwneud unrhyw beth a fyddai’n annog rhagor o brotestiadau.
Yn ôl adroddiadau yn y wasg, mae hefyd wedi beio “gelynion tramor” am gefnogi’r aflonyddwch drwy ddangos y protestiadau ar y teledu.