Mae’r unig derfysgwyr i fyw trwy’r ymosodiadau ym Mumbai ym mis Tachwedd y llynedd wedi cyfadde’ i’r cyhuddiadau yn ei erbyn – er bod peth dryswch o hyd am arwdyddocâd ei eiriau.

Bu farw 166 o bobl yn yr ymosodiadau ac, mewn llys yn y ddinas, mae Mohammad Ajmal Amir Kasab, 21 oed, o Bacistan wedi cyfaddef cymryd rhan ynddyn nhw.

Roedd Kasab yn un o ddeg o derfysgwyr a fu’n saethu at drigolion Mumbai, ond ef oedd yr unig un i gael ei ddal yn fyw.

Hyd heddiw roedd wedi gwadu cyhuddiadau ei fod yn rhan o’r ymosodiad, er iddo gael ei ddal ar gamerâu gyda gwn yn ei ddwylo.

Mae heddlu India wedi’i gyhuddo o 86 o droseddau gan gynnwys llofruddiaeth ac o ryfela yn erbyn India. Fe roddodd Kasab fanylion sut yr oedd y grŵp wedi teithio o Bacistan ar gwch cyn glanio ym Mumbai a lansio’r ymosodiad.

Synnu – ac amau

Dywedodd yr erlynydd, Ujjwal Nikam, fod “pawb wedi synnu’r eiliad wnaeth e’ ddweud ei fod yn derbyn ei droseddau”.

Ond mae Harish Salve, cyfrewithiwr gyda’r Llys Goruchaf nad oedd hi’n glir eto bod Kasab wedi cyfaddef yn wirfoddol neu beidio.

Llun: Manot Nair (Trwydded CCASh2.0)

Fe fyddai cyfaddefiad yn hwb i honiadau llywodraeth India mai grwpiau terfysg ym Mhacistan oedd y tu ôl i’r ymosodiadau.

Mae 38 o bobol wedi cael eu cyhuddo o fod â rhan yn yr ymosodiad – ond mae’r rhan fwyaf yn dal i fod ym Mhacistan.