Mae’n 40 mlynedd ers i dyn gamu ar y Lleuad am y tro cyntaf. Dyma rai o’r pethau sydd wedi eu datblygu o ganlyniad i deithiau yn y gofod … dim ond rhai.

• Past dannedd y gallwch ei lyncu (gan nad oes modd poeri past dannedd allan yn y gofod!).

• Colur – mae’r dechnoleg ddigidol a ddatblygodd NASA er mwyn gwneud mapiau 3D o wyneb y lleuad erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio gan gwmnïau colur i wneud colur a thriniaethau mwy effeithiol i’r croen.

• Technoleg heb wifrau –o ffonau symudol i gêmau cyfrifiadurol rhyngweithiol, dyna’r dechnoleg a drosglwyddodd eiriau enwog Neil Armstrong o’r lleuad i’r ddaear yn 1969.

• Esgidiau chwaraeon – gwell a mwy cyfforddus, diolch i i gynllunydd siwtiau gofod yn NASA.

• Nwyddau chwaraeon – mae’r deunyddiau mewn llongau gofod bellach yn cael eu defnyddio i wneud offer chwaraeon ysgafn ond cryf fel racedi tenis a chlybiau golff.

• Mae llawer o’r bwyd a gafodd ei ddatblygu ar gyfer teithiau gofod erbyn hyn wedi cel ei addasu ar gyfer bwyd babi.

• Roedd NASA yn defnyddio paneli solar yn wreiddiol i greu pŵer i longau gofod. Maen nhw erbyn hyn yn cael eu defnyddio ledled y byd i roi ynni glân.

• Helpodd NASA ddatblygu system atal rhew sy’n cael ei ddefnyddio ar adenydd awyrennau.

• Cafodd teclynau sy’n monitro curiad y galon eu defnyddio am y tro cyntaf gan deithwyr gofod er mwyn cadw llygad ar eu iechyd.

• Mae deunyddiau a gafodd eu datblygu gyntaf i wneud llongau gofod yn fwy diogel yn cael eu defnyddio i wneud coesau a breichiau artiffisial sy’n ysgafn a chyfforddus.

• Yn 1964, datblygodd NASA y blancedi ffoil sy’n cael eu defnyddio gan redwyr marathon.

• Padelli a sosbannau dim sticio – ar gyfer y gyfod y dyfeisiwyd y deunydd hwnnw.

• To yr O2 yn Llundain – deunydd siwtiau gofod.

• Mae’r system a ddatblygwyd i wneud yn siŵr nad yw ffenestri llongau gofod yn cymylu erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio ar ffenestri cerbydau, sbectols a gogls.