Fe gadarnhawyd fod pensiynwraig wedi cael ei lladd ar ôl cael ei sathru gan wartheg.

Roedd y ddynes 63 oed allan yn mynd â’i chi am dro gyda dynes arall pan ddigwyddodd yr ymosodiad mewn cae yn Sain Ffagan ar gyrion Caerdydd.

Digwyddodd y ddamwain ger yr A4232 yn agos at Amgueddfa Werin Sain Ffagan am 4.15pm ddydd Sadwrn.

Erbyn i’r gwasanaethau brys anfon ambiwlans roedd y ddynes eisoes wedi marw. Chafodd yr ail ddynes ddim ei hanafu yn y digwyddiad.

“Does dim amgylchiadau amheus ac mae’n ymddangos mai damwain drasig oedd hwn,” meddai Alun Morgan o Heddlu De Cymru.

Mae’r teulu wedi cael gwybod.

Rhybuddio

Dyma’r ail farwolaeth o fewn yr wythnosau diwetha’ ar ôl i wartheg ymosod ar wraig oedd yn cerdded ei chi.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio fod hynny’n arbennig o beryglus yr adeg yma o’r flwyddyn pan fydd lloi mewn cae.