Fe wnaeth Awstralia daro’n ôl yn galed ar bedwerydd diwrnod ail gêm brawf y Lludw yn Lord’s heddiw, gan chwalu gobeithion Lloegr am fuddugoliaeth hawdd.
Cafwyd perfformiad i’w gofio gan is-gapten Awstralia, Michael Clarke a’r wicedwr Brad Haddin y prynhawn yma ar ôl i’w tîm fod i lawr i 128 am bump.
Erbyn i’r chwarae ddod i ben oherwydd golau gwael ychydig cyn saith heno roedd Awstralia 313 am bump, ar ôl wynebu targed uchelgeisiol o 522 o rediadau.
Roedd y 125 gan Clarke, ei 11fed cant mewn gêm brawf, a’r 80 heb fod allan gan Haddin, yn amlwg wedi anfon Lloegr i banig.
Gydag un diwrnod i fynd, mae Awstralia’n diweddu’r ail gêm brawf gyda hyder na ellid fod wedi’i ddychmygu ddiwrnod ynghynt.
Llun: Brad Haddin (ar y chwith) a Michael Clarke yn llawenhau ar ddiwedd diwrnod llwyddiannus i Awstralia yn Lord’s heddiw, ar bedwerydd diwrnod ail gêm brawf y Lludw. (David Davies/PA Wire)